Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Communities, Equality and Local Government Committee

 

 

 

 

 

 

Bae Caerdydd / Cardiff Bay

 Caerdydd / Cardiff

CF99 1NA

                                                            

                              

13 Chwefror 2012

 

Annwyl Gyfaill

Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Gyfranogiad yn y Celfyddydau. Mae’r Pwyllgor wedi clywed pryderon gan nifer o sefydliadau y gallai toriadau mewn cyllidebau yn y sector celfyddydau gael effaith negyddol ar gyfranogiad yn y celfyddydau ymysg rhai grwpiau o bobl. Felly, mae’r Pwyllgor wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i gynnal ymchwiliad byr i’r mater hwn.

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad hwn yw:

Bydd y Pwyllgor yn:

·      Asesu effaith toriadau mewn cyllidebau ar gyfranogiad yn y celfyddydau yng Nghymru, yn arbennig a yw hyn wedi effeithio mwy ar rai grwpiau o bobl nag eraill;

·      Canfod bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer cyfranogiad yn y celfyddydau, o ran demograffeg a daearyddiaeth;

·      Ystyried rôl y sector celfyddydau gwirfoddol o ran cyfranogiad yn y celfyddydau ac edrych ar ffynonellau ariannu eraill;

·      Gwerthuso’r fframwaith polisi rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyrff sy’n dosbarthu arian i’r celfyddydau; ac

·      Ystyried a oes gan fudiadau celfyddydol yng Nghymru y modd o ddarparu amcanion cydraddoldeb eu harianwyr.

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, cofiwch roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

 

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth cyn hir.

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig at Pwyllgor.CCLlL@cymru.gov.uk

Neu gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dylai eich tystiolaeth gyrraedd erbyn dydd Gwener 9 Mawrth 2012. Efallai na fydd yn bosibl ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr at unrhyw unigolion neu sefydliadau hoffai gyfrannu at yr adolygiad. Bydd copi o’r llythyr hwn yn cael ei roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol gyda gwahoddiad agored i gyflwyno barn.

Datgelu Gwybodaeth

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad/bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Yn gywir

 

 

 

 

 


Ann Jones AC / AM

Cadeirydd / Chair